St David’s Day marked by calls for more devolution for Wales

  • Post last modified:March 1, 2024
  • Reading time:5 mins read


In a St David’s Day call, Cymdeithas yr Iaith have called on the winning candidate of the Welsh Labour leadership race, and the next first minister of Wales, to prioritise the devolution of civil service positions within Wales during his tenure.

St David’s Day: more devolution for Wales

According to figures Cymdeithas yr Iaith have received from the government, only a small minority – less than the national average – of senior civil servants are able to use the Welsh language in the workplace. The campaign group has questioned whether the Welsh language can be a central issue for government policy unless the organisation itself reflects the situation of the Welsh language.

Jeremy Miles has already broached the idea during his leadership campaign. In his manifesto for the Welsh Labour leadership race, he states that to “devolve powers down to every part of Wales and ensure the Cabinet spends more time outside Cardiff Bay” will be one of his objectives. Cymdeithas yr Iaith are keen that the two candidates devolve positions at all levels of the civil service, including those who create policy.

Referring to the recent protests by farmers over the Welsh government’s Sustainable Farming Scheme, the organisation argues that such devolution is necessary to ensure a broad representation of backgrounds within the civil service, a better understanding of the issues involved, and to provide secure jobs in rural Wales.

Centralisation is a danger to Wales

Cai Philips from Cymdeithas yr Iaith said:

Senior civil servants play a central role in formulating policies and recommendations for the Government. The danger with the centralization in Cardiff is that there will inevitably be a lack of representation and understanding among them of other areas of Wales, including Welsh language strongholds. Only 4.7% of senior civil servants can write fluently in Welsh, for example, and 50% of the senior civil service place their speaking skills at level 0, meaning no ability at all.

For example, how many of the officials who work on the Government’s housing policy have experienced the impact of the crisis facing Welsh-speaking communities as a result of the open market and how many of the officials who work on issues such as the Sustainable Farming Scheme understand the agricultural industry?

The implications of this are clear, the Welsh language will continue to be a marginal consideration in many policy areas. Moving jobs from Cardiff would improve the understanding of the policymakers, would increase democracy by giving people a voice as well as provide jobs in Welsh language strongholds. This is why it should be a priority for both Vaughan Gething and Jeremy Miles.

Welsh version

Mewn galwad Dydd Gŵyl Dewi, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar ymgeisydd buddugol ras arweinyddol Llafur Cymru, a Phrif Weinidog nesaf Cymru, i flaenoriaethu datganoli swyddi gweinyddiaeth sifil o fewn Cymru yn ystod ei lywyddiaeth.

Dydd Gŵyl Dewi: mwy o ddatganoli i Gymru

Yn ôl ffigyrau mae Cymdeithas yr Iaith wedi eu derbyn gan y Llywodraeth, dim ond lleiafrif fechan – llai na’r cyfartaledd cenedlaethol – o uwch weision sifil sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae’r mudiad wedi cwestiynu sut gall y Gymraeg fyth fod yn fater canolog i bolisi’r Llywodraeth oni bai bod y sefydliad ei hun yn adlewyrchu sefyllfa’r Gymraeg.

Mae Jeremy Miles eisoes wedi crybwyll y syniad. Yn ei faniffesto ar gyfer ras arweinyddiaeth Llafur Cymru, mae’n nodi “datganoli pwerau i bob rhan o Gymru a sicrhau bod y Cabinet yn treulio rhagor o amser y tu allan i Fae Caerdydd” fel un o’i amcanion. Mae Cymdeithas yr Iaith yn awyddus bod y ddau ymgeisydd yn blaenoriaethu datganoli swyddi ar bob lefel o’r gwasanaeth sifil, gan gynnwys y rheiny sy’n creu polisi.

Wrth gyfeirio at y protestiadau diweddar gan ffermwyr dros Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, mae’r mudiad yn dadlau bod datganoli swyddi yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth eang o gefndiroedd ymysg gweision sifil, dealltwriaeth o’r materion dan sylw, a sicrhau swyddi yn ardaloedd gwledig Cymru.

Mae canoli yn berygl i Gymru

Dywedodd Cai Philips o Gymdeithas yr Iaith:

Mae uwch weision sifil yn chwarae rôl ganolog wrth lunio polisïau ac argymhellion ar gyfer y Llywodraeth. Y perygl gyda’r fath ganoli yng Nghaerdydd yw bod diffyg cynrychiolaeth a dealltwriaeth yn eu plith o ardaloedd eraill o Gymru, gan gynnwys cadarnleoedd y Gymraeg, yn anochel. Dim ond 4.7% o uwch weision sifil Llywodraeth Cymru sy’n gallu ysgrifennu’n rhugl yn y Gymraeg, er enghraifft, ac mae 50% o’r uwch wasanaeth sifil yn gosod eu sgiliau siarad ar lefel 0, sy’n golygu dim gallu o gwbl.

Faint o’r swyddogion sy’n gweithio ar bolisi tai y Llywodraeth sydd wedi profi effaith yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg yn sgil y farchnad agored, a faint o swyddogion sy’n gweithio ar faterion fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n deall y diwydiant amaeth?

Mae goblygiadau hyn yn glir, bydd y Gymraeg yn parhau yn ystyriaeth ymylol ym meysydd polisi’r Llywodraeth. Byddai symud swyddi o Gaerdydd yn gwella dealltwriaeth y llunwyr polisi, yn gallu cynyddu democratiaeth trwy roi llais i bobl yn ogystal â darparu swyddi yng nghadarnleoedd y Gymraeg. Dyna pam ddylai fod yn flaenoriaeth i Vaughan Gething yn ogystal â Jeremy Miles

Featured image via Dobbidodarr – Envato Elements



Source link